SL(5)033 – Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Rhestr o Bersonau sydd wedi eu Tynnu oddi ar y Gofrestr) 2016

Cefndir a Phwrpas

O dan adran 80(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”), rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”) gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal Cymdeithasol penodol a gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol. Mae adran 110(1) o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid hefyd i GCC gadw rhestr o’r personau y mae eu cofnodion yn y gofrestr wedi eu dileu o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 110(2) a (4) o’r Ddeddf.

Yn y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnwys y rhestr o bersonau sydd wedi eu tynnu oddi ar y gofrestr a chyhoeddi’r rhestr, neu wybodaeth benodedig o’r rhestr, yn unol ag adran 110(6) o’r Ddeddf.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.3(ii): bod yr offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Mae’r Rheoliadau’n cael eu gwneud o dan adrannau o Ddeddf 2016 sydd ddim mewn grym eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yr adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym erbyn 3 Ebrill 2017 (hynny yw, y dyddiad y mae’r Rheoliadau’n dod i rym). Er nad yw’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud y Rheoliadau trwy ddibynnu ar adran 13 o Ddeddf Dehongli 1978 sydd yn galluogi rhai pwerau i gael eu gweithredu cyn i’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 ddod i rym.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

28 Tachwedd 2016